#CrowdCymru
Mae #TorfCymru yn brosiect gwirfoddolwyr digidol a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac a redir ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Fe’i cyrchir drwy lwyfan cyfrannu torfol a sefydlwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae’r system ddigidol ddwyieithog hon yn galluogi i wirfoddolwyr dagio, anodi a disgrifio’r casgliadau treftadaeth digidol hyn a ddelir yn y cronfeydd hynod hyn o bell. Mae gan wasanaethau archifau ledled Cymru filiynau o gofnodion digymar, ond dim ond ychydig sydd wedi eu catalogio ac felly mae’n anodd cael hyd iddyn nhw. Bydd y prosiect hwn yn harneisio gwybodaeth unigolion mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt i gyfoethogi ein treftadaeth gyfunol er budd cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Gobeithir ysgogi diddordeb y sawl sydd eisiau gwirfoddoli gydag archifau De Cymru ond na allant deithio i’r safleoedd, ac yn enwedig y rhai hynny sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Cymru ond sy’n byw dramor. Mae’r prosiect hwn yn gwbl ddigidol ac ar gael i unrhyw un, unrhyw le yn y byd os oes ganddynt Wi-Fi. Hefyd, y gwirfoddolwyr sy’n rheoli faint yr hoffent ei gyfrannu.
Mae partneriaid y prosiect wedi sicrhau bod amrywiaeth cyffrous o gasgliadau ar gael i weithio arnynt.
Mae Archifau Morgannwg wedi cyflwyno Ffotograffau Cymuned Dociau Caerdydd: portreadau o unigolion a grwpiau o gymuned dociau Caerdydd, wedi eu cymryd rhwng 1900-1920.
Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd wedi cyflwyno tri chasgliad. Dau ar gyfer adysgrifio: Archif Edward Thomas, sy’n archif bersonol anarferol o eang a manwl un o’r beirdd rhyfel llai adnabyddus a gafodd ei ladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dyddiaduron rhyfel Priscilla Scott-Ellis a wirfoddolodd fel nyrs yn ystod Rhyfel Sifil Sbaen ac yng Ngogledd Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar gyfer eu tagio a’u hadnabod, mae Archif Sefydliadol Prifysgol Caerdydd wedi cyflwyno atgofion gweledol myfyrwyr a staff yn mynd yn ôl i 1883.
Mae Archifau Gwent wedi cyflwyno casgliad o ffotograffau hiraethlon o ddyddiau cynharaf Clwb Rygbi ac Athletau Casnewydd. Mae’r archif eclectig yma yn cynnwys ffotograffau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg o chwaraeon niferus gan gynnwys pêl droed menywod a thwrnameintiau tennis. Maent hefyd yn cynnig casgliad o ohebiaeth yn ymwneud â Deddf y Tlodion 1834. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys gohebiaeth wreiddiol rhwng y Brif Swyddfa Weinyddol yn Llundain a swyddfeydd y sir [a elwid yn Warcheidwaid] – ail-ysgrifennwyd copi o bob llythyr a’i gadw mewn “Llyfr Llythyrau” ac mae Gwent yn cyflwyno detholiad o’r llyfrau llythyrau hyn o Fwrdd Gwarcheidwaid Y Fenni.
Bwriad y partneriaid yw rhyddhau mwy o gasgliadau wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Mae #TorfCymru yn defnyddio cyfrif Twitter @CrowdCymru i hybu cynnydd, amlygu casgliadau a meithrin cefnogaeth i gyfrifon archifau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a threftadaeth eraill.
Mae’r fenter hon yn beilot gwirfoddol digidol cyfrannu torfol sy’n rhedeg tan fis tan fis Tachwedd 2023.
I ddysgu mwy am y prosiect, neu i wirfoddoli, cysylltwch os gwelwch yn dda â Jennifer Evans trwy Jennifer.Evans@gwentarchives.gov.uk.