Hygyrchedd

Amlinellir islaw nifer o ffyrdd i helpu defnyddwyr i gael y budd mwyaf o'r safle.

Allweddi mynediad

I ddefnyddio allweddi mynediad, dilynwch y canllawiau dilynol:

  • Gall defnyddwyr Windows bwyso "ALT a'r allwedd mynediad a restrir
  • Gall defnyddwyr Macintosh bwyso "Control" a'r allwedd mynediad a restrir
  • Bydd pwyso "Enter" wedyn yn mynd â chi i'r dudalen.

Rydym wedi cynnwys yr allweddi mynediad safonol a argymhellir, sy'n cynnwys:

  • S = Osgoi Hwylio
  • 1 = Tudalen gartref
  • 2 = Newyddion
  • 3 = Map o'r safle
  • 4 = Chwilio
  • 5 = A i Y o Wasanaethau
  • 8 = Ymwadiad
  • 9 = Cysylltu â Ni
  • 0 = Help Hygyrchedd

Maint testun

Os yw maint testun y wefan yn rhy fach neu'n rhy fawr i chi ei ddarllen yn ofalus, medrwch newid maint y testun drwy eich porwr. Medrwch hefyd nodi'r arddulliau ffont, lliwiau a lliwiau blaendir a chefndir. Mae'r ffordd i wneud hyn yn amrywio rhwng porwyr.

(Nodyn - mae rhai cyfrifiaduron personol yn eich galluogi i gynyddu maint y testun drwy wneud dim ond dal yr allweddi 'control' ac 'alt' i lawr a defnyddio'r olwyn yng nghanol y llygoden i wneud y testun yn fwy ac yn llai).

Microsoft Internet Explorer

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer, ewch i'r ddewislen ar dop ffenestr y porwr a dewis View, ac wedyn ddewis Text Size o'r rhestr opsiynau. Byddwch yn gweld dewislen ar yr ochr yn agor; dewiswch y maint a ddymunwch ar gyfer edrych ar y wefan.

Firefox (Mozilla)

Os ydych yn defnyddio Firefox, ewch i'r ddewislen ar ben ffenestr y porwr a dewis View. Dewiswch 'Text Size' o'r rhestr opsiynau. Byddwch yn gweld dewislen ar yr ochr yn agor; dewiswch y maint a ddymunwch ar gyfer edrych ar y wefan.

Mae Firefox hefyd yn ei gwneud yn bosibl newid maint y testun gyda llwybrau tarw ar y bysellfwrdd:

  • Pwyswch Ctrl a + i gynyddu'r maint
  • Pwyswch Ctrl a - i ostwng y maint
  • Pwyswch Ctrl ac 0 i fynd yn ôl at y maint diofyn

Apple Mac

Ar gyfer cyfrifiadur yn defnyddio system weithredu Macintosh

  • Pwyswch Cmd a + i gynyddu'r maint
  • Pwyswch Cmd a - i ostwng y maint
  • Pwyswch Cmd ac 0 i fynd yn ôl i'r maint diofyn

Linux

Ar gyfer cyfrifiadur yn defnyddio system weithredu Linux

  • Pwyswch Ctrl a + i gynyddu'r maint
  • Pwyswch Ctrl a - i ostwng y maint
  • Pwyswch Ctrl ac 0 i fynd yn ôl i'r maint diofyn9

Arddulliau a lliwiau

Dylai defnyddwyr Internet Explorer glicio ar Tools, Options ac yna'r botymau lliwiau, ffontiau neu hygyrchedd.

Ffeiliau PDF

Mae Adobe® Acrobat® Reader yn feddalwedd am ddim sy'n gadael i chi weld ac argraffu ffeiliau Adobe Portable Document Format (PDF). Lawrlwytho Acrobat Reader|.

Gall Adobe hefyd eich helpu i gyrchu cynnwys yn defnyddio technolegau cymhorthol megis darllenwyr sgrin neu chwyddwyr sgrin. Gallwch hefyd gysylltu âgwefan Access Adobe| i gael mwy o wybodaeth ar wneud y dogfennau hyn yn hygyrch.

Cydymffurfiaeth W3C

Mae'r Consortiwm Gwefan Byd Cyfan (W3C) yn darparu Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau| (WCAG) ar gyfer pobl sy'n creu ac yn cynnal gwefannau.

Mae'r canllawiau hyn yn darparu gwefannau sy'n hygyrch i bobl gydag anableddau. Rhennir y canllawiau yn 3 lefel blaenoriaeth:

  • Blaenoriaeth 1
  • Blaenoriaeth 2
  • Blaenoriaeth 3

Mae'r holl dudalennau ar y safle yma'n cydymffurfio gyda Blaenoriaeth 1 ac mae mwyafrif y tudalennau yn cydymffurfio gyda Blaenoriaeth 1 a 2.

Mae gennym ymrwymiad i gynnal a gwella hygyrchedd y safle. Ein nod tymor hwy yw darparu safle sy'n cydymffurfio gyda holl lefelau blaenoriaeth WCAG.

Dolenni Defnyddiol