Amdanom Ni
Mae’r archifau sydd yn ein gofal yn adrodd hanes Gwent, a hanesion ei phobl.
Rydym yn casglu dogfennau awdurdodau lleol, busnesau, teuluoedd, sefydliadau ac unigolion, ac mae’r casgliadau’n cynnwys papurau, cynlluniau, ffotograffau, dyddiaduron a chofnodion. Maen nhw’n cael eu catalogio, mae rhestrau o’r catalogau ar gael yma, ac rydym yn eu cadw yn yr amodau gorau posibl fel y gallan nhw gael eu defnyddio gan genedlaethau’r dyfodol.
Mae modd gweld y casgliadau yn adeiladau Archifau Gwent neu drwy ein gwasanaethau chwilio a digideiddio, ac rydym yn croesawu ymweliadau mewn grŵp gan sefydliadau lleol, myfyrwyr ac athrawon.