Llywodraethu

Mae Archifau Gwent Archives yn wasanaeth ar y cyd i Gynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a Chasnewydd.   Gweinyddir y gwasanaeth gan Gyd Bwyllgor Archifau Gwent, pwyllgor o gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig, a chynhelir cyfarfodydd pedair gwaith y flwyddyn. Yn y cyfarfodydd, mae’r Archifydd Sirol yn rhoi adroddiad ar weithgareddau gan Archifau Gwent yn y tri mis blaenorol.

Gwelwch y ddolen ganlynol i weld gwybodaeth am aelodau presennol y Pwyllgor a chofnodion ac agendâu ar gyfer cyfarfodydd blaenorol.

Cyfrifon Ariannol

Darperir y dogfennau isod fel rhan o’r broses archwilio ariannol:

 

  • Preifatrwydd

Rydym yn cymryd preifatrwydd gwybodaeth o ddifrif, ac mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn manylu sut mae gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei chasglu a’i phrosesu.

Adborth

Rydym yn gobeithio bod pawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth, boed ar y safle neu o bell, yn cael profiad da, ond weithiau nid yw popeth yn mynd yn iawn. Rydym yn croesawu adborth, ac yn ei annog, a gellir cysylltu â ni yn enquiries@gwentarchives.gov.uk. Rydym hefyd yn dilyn gweithdrefn cwynion ffurfiol, cliciwch yma am wybodaeth am sut i wneud cwyn ffurfiol.

.