Jerwsalem Newydd

Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio â phartneriaid ledled y DU a’r Iwerddon, fel rhan o brosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, i roi ar gael archifau'r 11 o Drefi Newydd a godwyd ar ôl y rhyfel.

Cwmbrân oedd y Dref Newydd gyntaf yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu’n rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ailadeiladu ar ôl yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y Gorfforaeth ym 1949 i ddylunio tai, cyfleusterau cymdeithasol a masnachol.    Mae hanes ei datblygiad yn cael ei hadrodd drwy gofnodion Corfforaeth Datblygu Cwmbrân, sy'n cynnwys cofnodion, adroddiadau, arolygon, ffotograffau a chynlluniau.  Diddymwyd y Gorfforaeth ym 1988 a throsglwyddodd y cofnodion i Archifdy Gwent ar y pryd.
 
Mae'r cyllid hwn yn caniatáu i waith sydd wedi bod ei angen ers amser ddigwydd ar y casgliad hwn. Cafodd ei gatalogio flynyddoedd maith yn ôl, ond bydd y prosiect hwn yn ei ail-gatalogio i safonau modern ac yn sicrhau ei fod ar gael am y tro cyntaf ar ein catalog ar-lein cwbl chwiliadwy.  Mae'r cyllid hefyd yn caniatáu gwaith cadw, ail-becynnu ffotograffau a sleidiau gan amlaf, gan ddiogelu'r casgliad i'w ddefnyddio gan genedlaethau'r dyfodol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ar www.newjerusalems.info/