Siartiaeth yn Archifau Gwent

Ar 4ydd Tachwedd 1839, arweiniodd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones filoedd o ddynion o gymoedd diwydiannol Sir Fynwy i Gasnewydd. Yng Nghasnewydd rhoddwyd 500 o Gwnstabliaid Arbennig ar eu llw gan Faer Casnewydd, Thomas Phillips. Gosodon nhw eu hunain, gyda milwyr o'r 45fed Catrawd Troed, yng Ngwesty Westgate.

Am 9.30am, cyrhaeddodd y Siartwyr Westy Westgate. Roedden nhw’n credu bod Siartwyr eraill wedi eu carcharu yn y Gwesty ac roedden nhw’n mynnu eu bod yn cael eu rhyddhau. Taniwyd drylliau - mae’n aneglur pwy daniodd yn gyntaf, ond cafwyd brwydr waedlyd fer. O fewn 30 munud, lladdwyd tua 22 – claddwyd deg yn eglwys Sant Gwynllyw. Anafwyd dros 50 a’u trin yn Wyrcws Casnewydd.

Cafwyd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones yn euog o deyrnfradwriaeth ac fe’u dedfrydwyd i’w crogi, eu tynnu a’u chwarteru. Newidiwyd hyn wedyn i alltudiaeth am oes.

Mae Archifau Gwent yn dal nifer o gofnodion yn ymwneud â’r Siartwyr, yn amrywio o gofrestrau plwyfi i gofnodion pwyllgorau gwyliadwriaeth, i lythyrau ac adroddiadau papur newydd. Mae rhestr gyflawn yma. Isod mae yna restr o brosiectau a ffynonellau a allai fod o ddiddordeb;

Tystiolaeth y Tystion

Yn Ionawr 1840, safodd arweinwyr y Siartwyr eu prawf am ei rhan yng Ngwrthryfel Siartwyr Casnewydd. Yn 2010, cafodd y dogfennau o dystiolaeth o Achosion y Siartwyr eu digideiddio trwy arian gan Brosiect Dehongli’r Siartwyr Neuadd Sirol Mynwy.

Cafodd y dystiolaeth yma ei thrawsgrifio yn ddiweddarach gan wirfoddolwyr fel rhan o brosiect gyda’r Llyfrgell Genedlaethol a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gan gynnig mewnwelediad unigryw i gymunedau’r cymoedd ac ymgyrch y Siartwyr o blaid diwygio democrataidd, mae’r cofnodion anhygoel yma i’w gweld yng Nghasgliad y Werin Cymru

The Western Vindicator

Mae’r papur newydd yma a gyhoeddwyd gan yr o’r Siartwyr mwyaf blaenllaw, Henry Vincent, wedi cael ei ddigideiddio gan brosiect Marw Eisiau Pleidlais ac ar gael nawr yn Nghasgliad y Werin Cymru.

Ffilmiau Byr

Mae dwy ffilm fer ar y Siartwyr a’r Achos Llys ar gael ar YouTube: “A Man’s Life” ac “Unlocking the Chartist Trials

Gwefannau o ddiddordeb