Cadwraeth

Gwarchodwr cymwys sy'n gofalu am ein cofnodion, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n ddiogel fel y gall cenedlaethau yn awr ac yn y dyfodol gael mynediad atynt yn ddiogel.   Mae hyn yn cynnwys trafod llyfrau, papur, ffotograffau, memrwn, seliau a mapiau a chynlluniau yn ein stiwdio gadwraeth ar y safle.

Rydym hefyd yn hapus iawn i roi cyngor ar y ffordd orau o storio a gofalu am eich dogfennau a ffotograffau teuluol eich hun yn y cartref, a gallwn ymgymryd â gwaith cadwraeth ar eich dogfennau teuluol.  Mae croeso i chi gysylltu â ni i gael dyfynbris drwy yrru e-bost i enquiries@gwentarchives.gov.uk neu roi galwad i ni ar 01495 766250.