Gwasanaeth Addysg
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gefnogi dysgu a dod â disgyblion, myfyrwyr ac athrawon i gysylltiad uniongyrchol â’r gorffennol. Gallwn:
- Gynnig gweithdai ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2, 3, a 4, Lefel AS ac A a Bagloriaeth Cymru.
- Darparu gweithdai i israddedigion ac ôl-raddedigion ar ffynonellau cofnodion a sut i ddefnyddio’r archifau
- Rhoi hyfforddiant i athrawon ar bynciau penodol a sut i ddefnyddio’r casgliadau
I wybod mwy, gan gynnwys manylion am ein cynllun cymhorthdal trafnidiaeth i ysgolion, cysylltwch â ni trwy enquiries@gwentarchives.gov.uk.