Ymweld â Ni
Ymwelwch â ni yn Archifau Gwent i ddarganfod straeon difyr am bobl ac ardaloedd Gwent, wedi eu datgelu drwy gyfrwng cyfoeth o adnoddau archifol.
Mae’r Ystafell Ymchwil yn Archifau Gwent ar agor: Maw 9:30 - 4:30, Mer 9:30 - 4:30, Iau 9:30 - 4:30
Sylwer:
01/01/2026 - Byddwn ni’n treialu agor ar ddydd Sadwrn rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2026. Byddwn ar agor rhwng 10am a 4pm ar y dyddiadau canlynol; Dydd Sadwrn 10 Ionawr, Dydd Sadwrn 14 Chwefror, Dydd Sadwrn 14 Mawrth, Dydd Sadwrn 11 Ebrill, Dydd Sadwrn 09 Mai, Dydd Sadwrn 13 Mehefin
01/02/2026 - Mae’r gwaith adeiladu sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn tarfu rhywfaint ar y mynediad i’r adeilad. Cysylltwch â ni cyn ymweld, ar enquiries@gwentarchives.gov.uk neu 01495 766261 os oes gennych ymholiadau. Oherwydd y gwaith adeiladu sy’n mynd rhagddo yn yr adeilad, mae croeso i chi ddefnyddio'r ystafell Primrose Hockey rhwng 12:30 – 1:30 i gael Cinio.
Cyn eich ymweliad
Gallwch weld y Canllaw Mynediad Niwrowahanol i Archifau Gwent & Defnyddio'r Ystafell Ymchwil yn Archifau Gwent
Bwciwch eich apwyntiad drwy gysylltu â ni yn enquiries@gwentarchives.gov.uk neu ar 01495 766261. Rhowch wybod os hoffech ymweld am y bore, y prynhawn neu am y diwrnod cyfan. Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi, a bydd angen iddo/iddi archebu ar wahân yn ei enw/henw.
Dewiswch eich dogfennau gan ddefnyddio ein catalogau ar-lein, Hwb Archifau a Discovery a rhowch wybod inni beth hoffech chi ei weld. Bydd aelodau staff ar gael yn ystod eich ymweliad i’ch cynghori ynghylch y casgliadau cyn ac yn ystod eich ymweliad.
Cofrestrwch i gael Cerdyn Archifau, a bydd ond raid i chi ddod â phrawf o bwy ydych er mwyn i ni gwblhau’r broses a rhoi eich cerdyn i chi.
I wneud copïau o ddogfennau gwreiddiol rhaid defnyddio camera yn unig; ni chaniateir llungopïo na sganio. Mae Archifau Gwent yn codi tâl am drwydded os yw cwsmeriaid yn dymuno defnyddio eu camerâu eu hunain; fel arall, mae Archifau Gwent yn cynnig gwasanaeth ffotograffiaeth. Mae manylion ar gael yn yr adran Ffioedd a Thaliadau ar ein gwefan: