Lleoliad ac Oriau Agor

Mae’r Ystafell Ymchwil yn Archifau Gwent ar agor ddydd Mawrth i ddydd Gwener 9.30 am - 12.30 pm a 1.30 pm - 4.30 pm. 

Mae gwasanaeth ar gau yn ystod gwyliau banc, noswyl Nadolig a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Cyfleusterau a Hygyrchedd Corfforol

Mae Archifau Gwent ar lawr gwaelod y Swyddfeydd Cyffredinol, gyda phob dim ar un lefel ac yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a chadeiriau gwthio.  Mae mynediad hygyrch ar gael i’r tu cefn ac mae yna doiledau hygyrch ar y llawr gwaelod.  Mae’r ddau faes parcio sydd agosaf at y Swyddfeydd Cyffredinol yn cynnwys lleoedd i ddeiliaid bathodynnau anabl yn ogystal â rhai lleoedd oddi ar Lime Avenue. Edrychwch ar y map yma sy’n dangos lleoliadau parcio i ddeiliaid bathodynnau glas, gan ddefnyddio’n cod post NP23 6AA.

Mae dolen glyw ar gael yn yr Ystafell Ymchwil, a dylai cymhorthion clyw gael eu symud i’r safle ‘T’.  Mae’r staff i gyd yn Archifau Gwent yn hapus i roi cyngor am ein gwasanaethau, cyfleusterau a chasgliadau ac mae gwybodaeth bellach am gefnogaeth ychwanegol a’n hymrwymiad i hygyrchedd i’w gweld yn ein Polisi Mynediad Anabledd.

Mae mannau i eistedd yng Nghyntedd yr adeilad, ble gall ymchwilwyr gael egwyl a mwynhau lluniaeth.  Mae dewis bach o frechdanau a byrbrydau ar gael i’w prynu, yn ogystal â diodydd poeth, ac mae croeso i chi fwyta’ch pecynnau bwyd eich hunain yno hefyd.

Y golwg o du blaen yr adeilad, o yn agos at un o’r meysydd parcio

Golwg y fynedfa gefn, o gyfeiriad yr orsaf drenau a’r maes parcio

Cyrraedd yma

Mae Archifau Gwent yn adeilad hardd y Swyddfeydd Cyffredinol, adeilad rhestredig Gradd II ar safle’r hen weithfeydd dur yng Nglyn Ebwy.

Ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae gorsaf drenau Glyn Ebwy wedi ei lleoli drws nesaf i’r Swyddfeydd Cyffredinol, ac mae trenau rheolaidd yn mynd o orsaf Caerdydd Canolog. Mae nifer o fysiau lleol yn mynd i Lyn Ebwy.  Mae’r orsaf fysiau yn y dref, ac mae’r Swyddfeydd Cyffredinol ar ddiwedd taith gerdded i lawn y bryn o’r fan honno – gwelwch fap y llwybr am fanylion – neu drwy ddefnyddio Ffordd Cebl Glyn Ebwy .  Mae yna arosfannau bysiau yn agos.  I gynllunio’ch ymweliad, ewch i Traveline Cymru - Journey Planning Wales.

 Gyda’r car

O’r A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Glyn Ebwy, yna’r at The Works / Y Gweithfeydd a Newport / Casnewydd ac yna’r arwyddion ar gyfer The General Offices. O’r M4 (De) dilynwch yr A467 i Aber-bîg ac yna’r A4046 gydag arwyddion Glyn Ebwy/Ebbw Vale.  Dyma ddolen at fap o’r ardal leol.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael i barcio am ddim yn y maes parcio gyferbyn â’r adeilad neu ym maes parcio gorsaf Rheilffordd Tref Glyn Ebwy sydd yn gyfagos. Ar gyfer ceir trydan, mae yna 6 man gwefru Math 2 (7.5kw) ar gael ar draws y ddau faes parcio a gellir eu defnyddio trwy ap ffônau clyfar Connected Kerb

 Mae maes parcio aml-lawr am ddim ychydig yn bellach i ffwrdd (200m), ar bwys Campws Coleg Gwent ar Lime Avenue.  Gwelwch y map yma o fannau parcio i geir.