Jerwsalem Newydd

A ninnau wedi dechrau arni yn 2021, cwblhawyd y prosiect hwn yn haf 2025. Yn ystod y 4 blynedd hynny roeddem ni wrth ein bodd i  weithio â phartneriaid ledled y DU a’r Iwerddon, fel rhan o brosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, i roi ar gael archifau'r 11 o Drefi Newydd a godwyd ar ôl y rhyfel.

Cwmbrân oedd y Dref Newydd gyntaf yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu’n rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ailadeiladu ar ôl yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y Gorfforaeth ym 1949 i ddylunio tai, cyfleusterau cymdeithasol a masnachol.    Mae hanes ei datblygiad yn cael ei hadrodd drwy gofnodion Corfforaeth Datblygu Cwmbrân, sy'n cynnwys cofnodion, adroddiadau, arolygon, ffotograffau a chynlluniau.  Diddymwyd y Gorfforaeth ym 1988 a throsglwyddodd y cofnodion i Archifdy Gwent ar y pryd.

Caniataodd y cyllid  waith mawr ei angen ar y casgliad hwn. Roedd catalog papur wedi bod ar gael ar y safle, yn Archifau Gwent a thrwy gatalog Darganfod Archifau Cenedlaethol, ers iddo gael ei gatalogio gyntaf yn y 1990au.   Ond diolch i’r prosiect hwn, cafwyd cyllid i’w ail-gatalogio i safonau modern a sicrhau ei fod ar gael am y tro cyntaf ar ein catalog ar-lein y gellir ei bori’n llawn, yn ogystal ag ar gatalog ‘Darganfod yr Archifau Gwladol. 

Gwnaed gwaith cadwraeth hefyd fel rhan o'r prosiect, er mwyn diogelu'r casgliad yn well. Cafodd ffotograffau a sleidiau eu hailbacio mewn blychau a deunydd lapio arbennig er mwyn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ar www.newjerusalems.info/